The search is on for Wales’ Best Blogger0

Wales Blog Awards 2012 opens for entries

Welsh amateur bloggers are being encouraged to enter the Wales Blog Awards 2012, which is now open for entries here. Now in its third year, the event aims to award those writing creative and interesting blogs on a range of subjects including food and drink, sport and their local community.

The 2012 awards will include two new categories – Best Multimedia Blog and Best New Blog, for those started in the last year.

Blogs (originating from the name ‘web log’) are websites that are usually free to set up and maintained as a hobby by individuals wishing to comment on various subjects.

Bloggers are able to enter their own work or people can nominate the blogs they enjoy reading. The categories will include:

- Best Blog (people’s choice – voted for by the public)
- Best Writing on a Blog
- Best Political Blog
- Best Community Blog
- Best Lifestyle Blog
- Best Technology Blog
- Best Sports Blog
- Best Multimedia Blog (New category for 2012)
- Best New Blog (New category for 2012)
- Best Music and Entertainment Blog
- Best Food & Drink Blog

Each award category will be sponsored and prizes will be awarded to the winners.
This year’s awards will also be completely bilingual – meaning that Welsh language blogs will be judged alongside English language blogs.

Last year Phil Stead from Caernarfon won the overall Best Blog and Best Sports Blog Awards for his blog Ffwtbol (www.ffwtbol.co.uk). Phil says winning last year has opened doors for him, “Winning the awards has given me credibility as a writer and I’m now a regular media contributor, often being introduced as ‘Welsh Blogger of the Year’. It’s also been great publicity for the book I’m writing about the story of Welsh football.

“I’ve even begun writing a new cycling blog, which I’m really enjoying. I didn’t actually enter my blog into the awards last year, one of my readers entered me anonymously, so if you do enjoy a particular blog, I’d really encourage you to submit it to the contest – you never know where it may lead.”

The award ceremony will take place in September in Cardiff.

Click here for the entry form.

_______________________________________________________________________________

Mae’r Chwilio wedi Dechrau am Flogiwr Gorau Cymru Mae Gwobrau Blogiau Cymru 2012 yn agor ar gyfer ceisiadau

Mae blogwyr amatur Cymru yn cael eu hannog i ymgeisio ar gyfer Gwobrau Blogiau Cymru 2012, sydd yn awr yn agored ar gyfer ceisiadau.

Ac yntau bellach yn ei drydedd flwyddyn, nod y digwyddiad yw gwobrwyo’r sawl sy’n ysgrifennu blogiau creadigol a diddorol ynghylch ystod o bynciau, yn cynnwys bwyd a diod, chwaraeon, a’u cymuned leol.

Fe fydd Gwobrau 2012 yn cynnwys dau gategori newydd – Blog Amlgyfrwng Gorau a Blog Newydd Gorau – ar gyfer y rhai a ddechreuwyd yn y flwyddyn ddiweddaf.

Mae blogiau (sy’n tarddu o’r enw Saesneg ‘web log’) yn wefannau sydd fel arfer yn rhad ac am ddim i’w sefydlu ac i’w cynnal fel hobi amser hamdden gan unigolion sy’n dymuno bwrw sylw ar amrywiol bynciau.

Mae blogwyr yn gallu cynnig eu gwaith eu hunain neu fe all pobl enwebu’r blogiau y maen’ nhw’n mwynhau’u darllen. Fe fydd y categorïau yn cynnwys:

- Blog Gorau (dewis y bobl – y pleidleisiwyd arno gan y cyhoedd)
- Yr Ysgrifennu Gorau ar Flog
- Blog Gwleidyddol Gorau
- Blog Cymunedol Gorau
- Blog Ffordd o Fyw Gorau
- Blog Technoleg Gorau
- Blog Chwaraeon Gorau
- Blog Amlgyfrwng Gorau (Categori newydd ar gyfer 2012)
- Blog Newydd Gorau (Categori newydd ar gyfer 2012)
- Blog Cerddoriaeth ac Adloniant Gorau
- Blog Bwyd a Diod Gorau

Fe fydd pob categori o wobrau yn cael eu noddi, ac fe fydd gwobrau’n cael eu dyfarnu i’r enillwyr.

Fe fydd gwobrau eleni hefyd yn gyfan gwbl ddwyieithog – gan olygu y bydd blogiau yn y Gymraeg yn cael eu barnu ochr yn ochr â blogiau yn y Saesneg.

‘Llynedd, fe enillodd Phil Stead o Gaernarfon y Wobr Blog Gorau cyffredinol a’r Wobr Blog Chwaraeon Gorau am ei flog o’r enw Ffwtbol (www.ffwtbol.co.uk). Mae Phil yn dweud bod ennill ‘llynedd wedi agor drysau iddo, “Mae ennill y gwobrau wedi rhoi hygrededd imi fel ysgrifennwr, ac ‘rwyf yn awr yn gyfrannwr rheolaidd i’r cyfryngau, yn aml yn cael fy nghyflwyno fel ‘Blogiwr Cymreig y Flwyddyn’. Mae o hefyd wedi bod yn gyhoeddusrwydd gwych ar gyfer y llyfr ‘rwyf yn ei ysgrifennu am hanes pêl-droed Cymru.

“’Rwyf hyd yn oed wedi dechrau ysgrifennu blog beicio newydd, ‘rwyf yn ei wirioneddol fwynhau. Ni wnes i mewn gwirionedd gynnig fy mlog yn y gwobrau ‘llynedd – un o’m darllenwyr wnaeth fy nghynnig i’n ddienw – ac felly os ydych yn mwynhau rhyw flog neilltuol, fe fyddwn yn eich gwir annog chi i’w gyflwyno yn y gystadleuaeth – nid ydych chi byth yn gwybod i le y gall o arwain.”

Fe fydd seremoni’r Gwobrau yn cael ei chynnal ym mis Medi yng Nghaerdydd.